Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ping News yn falch iawn o gyhoeddi y bydd sefydliadau cyfryngau cymunedol annibynnol yng Nghymru yn elwa o gronfa o £100,000 gyda'r nod o gefnogi newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
Bydd y Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi hyd at ddeg sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion er budd y cyhoedd sy’n berthnasol yn lleol a hyrwyddo cynaliadwyedd yn y sector newyddion cymunedol yng Nghymru.
Ariennir y cynllun sbarduno gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cael ei ddosbarthu trwy Ping News CIC, cwmni buddiant cymunedol a arweinir gan y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN), a chwmni datblygu apiau gwe o Fryste, Omni Digital. Mae Ping News yn cefnogi cynaliadwyedd yn y sector newyddion cymunedol annibynnol, gan rymuso newyddiaduraeth hyperleol a meithrin gwydnwch cymunedol.
Mae'r cynllun sbarduno hwn wedi'i anelu at ddarparu cymorth i allfeydd newyddion cymunedol annibynnol sy'n bodoli eisoes yng Nghymru sy'n ymroddedig i ddarparu newyddion er budd y cyhoedd sy'n berthnasol yn lleol a llenwi diffygion yn sylw’r newyddion presennol er budd y cyhoedd.
Bydd yn cefnogi sefydliadau sydd wedi ymrwymo i roi sylw i gynghorau, llysoedd a’r system cyfiawnder lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a chyrff statudol eraill.
Bydd y cynllun sbarduno hefyd yn ystyried ceisiadau a fydd yn helpu i ysgogi ymgysylltiad y gynulleidfa, rhaglenni mentora, ffocws adeiladol ar bobl ifanc, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddi, cyflogi gweithwyr llawrydd, a chynyddu galluoedd newyddiaduraeth symudol a deallusrwydd artiffisial.
Mae deg dyfarniad o £9,400 ar gael.
Mae angen i gyhoeddwyr fodloni safonau mynediad yr ICNN (nid yw aelodaeth o’r ICNN yn ofyniad), gan gynnwys dangos didueddrwydd, copi cytbwys a gweithdrefn gwyno amlwg, a chadw at god ymddygiad IPSO neu god Impress a chod ymddygiad yr NUJ.
Mae’r Cynllun Sbarduno Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd yn dilyn llwyddiant y Gronfa Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd yn 2022.
I wneud cais, llenwch y ffurflen isod cyn 11.59pm ar 6 Awst 2023.
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn 14 Awst, 2023.
Mae’r gronfa’n dechrau ar 21 Awst 2023. Mae’n rhedeg tan 21 Chwefror 2024. Rhaid gwario’r holl arian grant o fewn y cyfnod hwnnw.