Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru
Telerau ac amodau
Beth ydym yn ei olygu wrth newyddion er budd y cyhoedd?
Wrth ‘newyddion er budd y cyhoedd’, rydym yn golygu gwybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu a’i lledaenu i’r cyhoedd yn unol â safonau uchel o ymddygiad moesegol ac arferion gorau mewn newyddiaduraeth ac sy’n darparu un neu fwy o’r buddion canlynol i’r cyhoedd:
● mae’n hysbysu aelodau'r cyhoedd am faterion sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau fel dinasyddion neu
● mae’n galluogi aelodau cymunedau lleol i ddod yn ymwybodol o faterion o bryder cyffredin iddynt fel aelodau o’u cymuned, a’u deall, ac sy’n hyrwyddo eu hymglymiad a’u cydweithrediad mewn materion o’r fath a chydlyniant cymunedol yn unol â hynny neu
● mae’n galluogi aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn modd gwybodus mewn prosesau democrataidd perthnasol ac, o ganlyniad, yn cefnogi cyfreithlondeb y broses ddemocrataidd yn ei chyfanrwydd neu
● mae o fudd i’r cyhoedd drwy hyrwyddo canlyniadau addysgol elusennol, megis gwella dealltwriaeth y cyhoedd o faterion iechyd a meddygol neu warchod yr amgylchedd.
Beth yw ystyr cyhoeddwr cymunedol annibynnol?
Cyfeiriwch at feini prawf aelodaeth yr ICNN i gael diffiniad o gyhoeddwyr cymunedol annibynnol:
Eng: https://www.communityjournalism.co.uk/criteria-for-membership/
Cymraeg: https://www.communityjournalism.co.uk/cy/meini-prawf-ar-gyfer-aelodaeth/
Nid yw cyhoeddiadau sydd â throsiant blynyddol o dros £1 miliwn yn gymwys i wneud cais.
Mae cyllid ar gyfer sefydliadau cyhoeddi ac nid newyddiadurwyr unigol na gweithwyr llawrydd.
Anelir cyllid at gyhoeddwyr, nid cyhoeddiadau. Felly dim ond un cais fesul cyhoeddwr y gallwn ei dderbyn.
Gellir defnyddio cyllid ar gyfer unrhyw beth sy'n wirioneddol angenrheidiol at ddibenion cynyddu cynhyrchiad newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i roi manylion banc i Ping News CIC at ddibenion dyfarnu'r cyllid.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i gyflwyno adroddiadau prosiect misol sy'n amlygu ‘effaith’ y cyllid ar eu sefydliad. Bydd templedi yn cael eu darparu gan dîm Ping! Heb fod yn gyfyngedig iddynt, mae hyn yn cynnwys darparu data ar straeon annibynnol a gynhyrchwyd gyda chymorth y cyllid, URLs, ymweliadau tudalen, a nifer y gweithiau y cafodd stori ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i gael eu cyfweld ar ddiwedd y prosiect at ddibenion y gwerthusiad. Gellir defnyddio'r cyfweliadau hyn mewn astudiaethau achos a/neu brosiectau ymchwil yn y dyfodol.
Rydym yn gobeithio hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus o fewn 30 diwrnod o dderbyn ceisiadau. Os bydd hyn yn newid yn sylweddol, byddwn yn ymdrechu i hysbysu pob ymgeisydd cyn gynted â phosibl.
Rydym yn mynnu nad yw ymgeiswyr yn cyflwyno unrhyw wybodaeth Busnes sensitif. Mae gwybodaeth busnes sensitif yn wybodaeth gyfrinachol a fyddai, o'i datgelu, yn rhoi mantais gystadleuol i'ch cystadleuwyr drosoch chi neu a fyddai fel arall yn achosi niwed sylweddol i chi.
Rhaid i ymgeiswyr ddod o sefydliadau unigol. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau sy’n gydweithrediad rhwng dau neu fwy o sefydliadau ar wahân.
Nid yw cwblhau'r cais hwn mewn unrhyw ffordd yn gwarantu eich llwyddiant wrth dderbyn cyllid.