Cwestiynau cyffredin
Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru
-
Gallwch wneud cais am unrhyw ffigwr hyd at £9,400.
-
Hyd at ddeg.
-
Mae’r cynllun sbarduno yn cefnogi sefydliadau newyddion lleol annibynnol yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i roi sylw i gynghorau, llysoedd a’r system cyfiawnder lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân, Comisiynau Heddlu a Throseddu, a chyrff statudol eraill. Bydd y cynllun sbarduno yn ystyried ceisiadau sy'n berthnasol i gostau staffio/llawrydd a chostau rhedeg. Bydd hefyd yn ystyried ceisiadau a fydd yn helpu i ysgogi ymgysylltiad y gynulleidfa, rhaglenni mentora, ffocws adeiladol ar bobl ifanc, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddi, cyflogi gweithwyr llawrydd, a chynyddu galluoedd newyddiaduraeth symudol a deallusrwydd artiffisial.
-
Mae'r arian wedi ei roi i Ping! News gan Lywodraeth Cymru. Mae Ping! News yn gwmni buddiant cymunedol dielw a arweinir gan yr ICNN a datblygwr o Fryste, Omni Digital. Ei nod yw cefnogi cynaliadwyedd yn y sector newyddion cymunedol annibynnol. Fe’i dewiswyd Ping! i weinyddu’r gronfa gan ei bod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac mae ganddi wybodaeth helaeth am y sector newyddiaduraeth gymunedol.
-
Mae’r gronfa’n dechrau ar 21 Awst 2023. Mae’n rhedeg tan 21 Chwefror 2024. Rhaid gwario’r holl arian grant o fewn y cyfnod hwnnw.
-
Sefydliad gyda throsiant o lai na £1 miliwn.
-
O leiaf dri mis.
-
Mae angen i bob cyhoeddwr fodloni safonau mynediad yr ICNN, gan gynnwys dangos didueddrwydd, copi cytbwys a gweithdrefn gwyno amlwg, a chadw at god ymddygiad IPSO neu god Impress a chod ymddygiad yr NUJ. Manylion llawn yma: https://www.communityjournalism.co.uk/cy/meini-prawf-ar-gyfer-aelodaeth/.
-
Bydd unrhyw arian sydd heb ei hawlio o'r cynigion cychwynnol yn cael ei roi mewn cronfa atodol a fydd yn cael ei chyhoeddi maes o law.
-
Dylai cyhoeddwyr lenwi'r ffurflen gais.
-
Rhaid derbyn ceisiadau cyn 11.59pm ar 6 Awst 2023. Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael eu hystyried.
-
Cysylltwch â gweinyddwr y gronfa, John Baron, ar john.baron@pingnews.uk am ragor o wybodaeth.